#!@Malcym 

'Isio bod yn ffarmwr, ia?' gwaeddodd Ifor. Roedd sŵn tractors wedi difetha'i glyw ers blynyddoedd. 'Gynny fi ddim choice. Fa'ma neu Libfafi,' atebodd Malcym wrth dynnu ar ei sigaret yn cŵl. 

Ond doedd Ifor ddim wedi aros i ddisgwyl am atab Malcym. Roedd o wedi diflannu i rwla, yn mwydro rwbath am droi rhyw feheryn at rhyw ddefaid, dôshio rhyw giât, weldio rhyw fuwch, injectio rhyw dractor a thrwshio rhyw oen. 

Parciodd Malcym ei foped yn ymyl car rhydlyd Ifor, yn y garej, a gorffan ei smôc. Yr unig beth roedd o'n ei licio am gynllunia YTS oedd y teithio. Y gyrru i'w waith a'r gyrru o'i waith, ac roedd y moped yn mynd fel moto-beic! Lwcus fod gan ei Nain ddigon o fodd i fancio'i phensiwn bob wsos, neu'n ôl a 'mlaen ar fýs y byddai Malcym. Dim ond dau ddeg pump, tri deg oedd cyflog dyn ar YTS. Fedrai Malcym ddim disgwyl i gael bod yn hen. Roedd pensiwn i'w weld yn talu'n well o lawar. Ond wedyn tasa fo'n hen, fasa fo ddim yn cael gyrru moped! Edrychodd arno'i hun yng ngwydr y beic. Roedd y fodrwy yn ei glust yn gneud iddo edrach yn tyff! Yna edrychodd ar ei bymps newydd. Stwmpiodd ei smôc rhwng ei bympsan a'r concrit a cherddodd yn hamddenol at y cwt y gwelodd Ifor yn diflannu i mewn iddo. 

'Dwfnod neis Mustyf Huws,' cynigiodd Malcym. 'Blydi-shafft-PTO!' damiodd Ifor a phoerodd gwreichion coch a glas yn gawodydd trwy'r drws. 

Neidiodd Malcym gan ysgwyd y gwreichion odd' ar ei ddillad rhag ofn iddo fynd ar dân! 

'Be 'dach chi'n neud, Must yf Huws?' gofynnodd wedyn gyda dim ond ei dalcan yn sbecian rownd y drws. 

Roedd y Ddynas YTS wedi pwyso arno i ofyn cwestiyna. Ond doedd o ddim am gael atab oherwydd rhuthrodd Mrs Huws ar draws yr iard yn ei slipas croen dafad, yn gweiddi fod rhywun eisio gair hefo'i gŵr ar y ffôn. Ym mhen pum munud go lew ar ôl i Ifor orffan malu beth bynnag yr oedd o'n trIo'i drwshio, aeth i atab y ffôn. 

Aeth Malcym i nôl smôc arall o helmet ei foped ac i siarad hefo Mrs Huws a oedd yn ymlafnio i roi dwy gyfnas wen drom ar y lein ddillad. 

'Dwfnod neis, Musus Huws,' tynnodd Malcym yn ddoeth ar ei sigaret. 

"Mond gobeithio… sycha nhw… 'de, Malcym,' atebodd Mrs Huws yn fyr ei gwynt wrth godi'r cyfnasa.' 

'Pam neith chi fynd â nhw i Londyfet?' gofynnodd Malcym yn fusneslyd. 

'Gwynt yn rhatach, tydi Malcym,' a sythodd Mrs Huws y gyfnas ddwytha ar y lein. "Mond gobeithio ca' nhw lonydd. Buwch ddoth ar 'u traws nhw ddoe!' ebychodd yn ddiymadferth. 

Edrychodd Malcym ar y dillad claerwyn, llipa ar y lein yn siglo'n ôl a 'mlaen hefo'r gwynt. Dechreuodd feddwl am ei wely, y gwely cynnas y llusgwyd ohono y bora hwnnw. Dechreuodd deimlo'n gysglyd. Doedd ei ffrindia ddim yn gorfod dechra gweithio tan naw. Ond roedd o'n gorfod dechra am hannar awr wedi wyth! Dechreuodd ddifaru am nad oedd o wedi mynd i weithio i'r Llyfrgell. Ond wedyn fyddai o ddim yn cael cyfla i yrru dim byd yn fanno, dim ond trolis llyfra, a doedd 'na'm gers ar betha felly! Hannar awr wedi wyth tan bump. Doedd o ddim yn deg! Er, chyrhaeddodd o ddim tan chwartar i naw heddiw a doedd neb wedi sylwi! 

Cafodd Malcym ddigon o amsar i sylwi ar yr iard tra roedd Ifor ar y ffôn. Ond ar ôl gweld yr holl lunia lliwgar yn y tunelli o Farmers Weekly, a gafodd gan Miss Price YTS, roedd o'n siomedig. Roedd o wedi disgwyl gweld peirianna mawr newydd o bob math yn britho'r iard. Seilos fel rocedi, sied ia gymaint â chaea pel-droed a chombeins gymaint â deinosôrs! Roedd o wedi ffansio'i hun yn gyrru combein. y combein mwya oedd yn bod! Ond yr unig beth newydd a welodd Malcym ar iard Corsydd Mawr oedd rwbath tebyg i ffrâm drws ar wal y gorlan a hwnnw'n baent glas newydd drosto. 

Brasgamodd Ifor o'r tŷ yn mwydro rhwbath am Gyngor Sir a lledu ffordd, a chorsydd! Roedd ei ddillad yn hongian amdano'n fler a dim ond ambell fotwm ac un bachyn bregus yn eu cau. A doedd Malcym ddim yn gwybod p'run ai wedi neidio i mewn iddyn nhw ar goblyn o frys yr oedd o, 'ta wedi hanner neidio ohonyn nhw rywbryd yn ystod y bora! Welintons oedd am ei draed a'u hôl budr nhw ar deils coch y gegin. Aeth Mrs Huws i nôl ei mop dan regi. 

Tynnodd Malcym yn braf ar ei sigaret gan feddwl ella bod Mr Huws am fynd yn ôl i'r cwt y daeth allan ohono. Ond erbyn i Ifor gyrra' dd yr iard, roedd o fel 'tasa fo wedi chwythu ei stem i gyd. Cofiodd eiria'i wraig: 'Paid â gweiddi amo fo dwrnod cynta, Ifor… ' 

'Lle ma' dy welintons di?' gwaeddodd Ifor. Roedd o wedi anghofio sut i siarad heb weiddi! 

'O, fi'n mynd i ca'I rhei gin Santa Clôs,' atebodd Malcym. 

Ar ben ei hun ac iddo'i hun yr oedd Ifor wedi gweithio ers pum mlynadd ar hugain. Dyna oedd yn egluro pam yr oedd o'n wyllt, yn fler, yn anghwrtais ac yn teimlo ei fod o mewn rhyw frwydr barhaus hefo anifeiliaid, tir, tywydd a phobol. 

'Mi fydd lorri yma… hannar awr 'di deg… Bustych i mart,' mwmliodd Ifor. 

'O cyn fi amhofio, Must yf Huws. Ceith fi bwcio holides fi fwan?' 

Ond roedd Ifor wrthi'n agor rhyw giatia yn y gorlan ac yn clymu rhai er'ill hefo llinyn bel. Stwmpiodd Malcym ei smôc yn bwdlyd. 

'Patant newydd sbon i ddal gwarthaig, yli,' broliodd Ifor wrth agor y Crysh glas, newydd yn barod i ddal penna'r bustych. 'Penna nhw'n sownd i ni ga'I codi nymbrs 'u clustia nhw,' ychwanegodd wedyn. 

Ond doedd Malcym ddim yn dallt. Pregethodd Ifor am rinweddau'r Crysh newydd am ddeg munud solat, er mai heddiw fyddai'r tro cynta' iddo'i ddefnyddio. Roedd Ifor wedi darllan ac ystyried yn hir cyn ei brynu. Ond doedd dim dwywaith, 'tasa ond am ei olwg o, roedd o'n curo'r hen un yn racs! Roedd llwyddo i ddal pen anifail pedair coes yn yr hen un yn dibynnu'n llwyr ar amseriad y dyn a oedd yn tynnu'r rhaff ac yn wardio o'r golwg ar ei gwrcwd. Ond hefo'r un newydd, y bustach ei hun oedd yn cloi'r giât am ei wddw wrth ei gwthio ymlaen hefo'i sgwydda. Roedd y Crysh yn mynd i fod yn fendith i ddal anifeiliaid anystywallt, a fedrai Ifor ddim disgwyl i'w weld o'n gweithio! 

Brasgamodd Ifor drwy'r baw yn yr adwy i'r cae, a sbonciodd Malcym o garreg i garreg ar ei ôl, yn ei bymps. 

'Be ydi bustych, Mustyf Huws?' gofynnodd Malcym. 

'Gei di weld!' ebychodd Ifor. 

Cerddodd y ddau ar draws y cae cynta. Yn yr ail gae yr oedd y bustych. 

'Pfyd ceith fi ddfeifio tfactof, Mustyf Huws?' gofynnodd Malcym wedyn. 

Landrovers, ffarmwrs mewn body-warmers, het mynd-a-dwad a welintons glân… Oll ar dudalenna'r Farmers Weekly. A gyda'i feddwl ar ddarlunia o'r fath yr oedd Malcym pan roddodd flaen ei droed mewn cachu buwch! 

Cerddodd Ifor a Malcym i'r ail gae. 

Gorchmynnwyd yr ast i orwadd yn fflat fel crocodeil ar ryw le o strategol bwys yn y cae cynta. Toc cafodd Malcym ynta ei orchymyn. Roedd o i sefyll yn llonydd heb fod nepell o'r adwy yn yr ail gae. Beth oedd diban cael ast yn gorwadd ar y cae a phawb arall yn gorfod cerddad? Roedd hynny'n bysi i Malcym. Peth arall a'i poenai (ond nid yn fawr iawn) oedd fod Ifor yn mynd i hel deg bustach o'r cae i'r gorlan er mai dim ond pump oedd i fynd i'r sel. 'Fyddai ddim yn well i'r pump arall aros yn y cae i gael bwyta mwy a mynd yn dew? Roeddan nhw'n edrach yn ddigon bychan ym mhen draw'r cae. Ond pan drodd Malcym ei ben yn ôl y funud wedyn, roedd cant a hannar o fustych gwyllt yn rhedag tuag ato a'r rheiny'n mynd yn fwy ac yn fwy wrth nesu! Roeddan nhw'n pyncio'u penna a'u coesa, a'u llygaid yn fflachio'n wyllt. Roeddan nhw'n mynd i'w LADD o!! 

'Shwwwwwwwwwwŵ!' sgrechiodd Malcym o flaen y deg bustach cyn sglefrio am ddihangfa yn ei bymps. 

Ond erbyn iddo edrach dros ei ysgwydd o ben y clawdd, roedd y cwbwl wedi rhedag yn eu hola i ben pella'r cae. Dim ond tynnu coes oeddan nhw gwenodd Malcym a'i wefusa'n crynu. 

'Gweiddi yn eu gwyneba nhw, y mwnci diawl!' gwylltiodd Ifor dan ei wynt. Ond doedd fiw iddo fo ddarnio'r YTS ar ben clawdd, ar ei dd'wrnod cynta. 'Aros yn fan'na!' gwaeddodd ar Malcym. 

Doedd Malcym ddim wedi dychryn cymaint ers ben bora pan stopiodd gyferbyn â giât lôn Corsydd Mawr i edrach faint oedd y pelltar ar gloc ei foped. Croesodd y ffordd fawr ond welodd o mo'r car gwyrdd ddaeth i'w gyfarfod. Cyrhaeddodd yr ochr arall o flaen y car a chododd ddau fys ar y ddynas! Datododd hannar dwsin o glyma llinyn bel mewn llai nag eiliad tra'n edrach yn ôl yn nerfus dros ei ysgwydd. Tarodd ei ben-glin yn yr arwydd 'CAEWCH y GIÂT!' Ond chaeodd o mohoni. Doedd ganddo ddim amsar! 

Roedd Malcym wedi dechra cael llond bol ar ffarmio'n barod ac yn dechra meddwl fwyfwy am y Llyfrgell. O leia mi fyddai o'n gynnas ac yn sych yn fan'no. Roedd y gwynt yn ei frathu'n ddrafftiog trwy'i grys chwys brau. Ac am y tro cynta erioed roedd o wedi sylweddoli mor bwysig oedd ceffyl i gowboi, oherwydd roedd y gwlybaniaeth wedi dechra dod drwadd i'w sana! Roedd o jest â marw isio smôc. Ond roedd y rheiny'n helmet ei foped. 

Bu'n rhaid i Ifor chwibanu ar yr ast i rowndio'r bustych yn y diwedd. Er, byddai'n well ganddo fod wedi peidio oherwydd roedd y bustych yn ddigon gwyllt heb i greadur bychan, milain ar bedair coes eu rhishio nhw. 

'Rush? 'Ma Rush fach? Cer rownd! Cer rownd!' gyrrodd Ifor yr ast. 

Cymrodd yr ast dro rownd y bustych a'u hel yn daclus tuag at yr adwy gynta. Roedd y rhedag i ben draw'r cae wedi bod o help i arafu rhywfaint ar y petha hurt. 

'Paid â symud!' gwaeddodd Ifor fel yr oedd Malcym ar fin neidio o ben y clawdd â'r bustych yn anelu at yr adwy. 

Aeth y bustych i gyd trwy'r adwy ac i'r cae cynta. 

Doedd Malcym yn gallu meddwl am ddim byd ond smôc. Neidiodd o ben y clawdd i ganol crempog wlyb o faw gwartheg a sbonciodd ar goes ei drowsus a chyrlio i fyny ochra'i bymps! Cerddodd Malcym yn fwy gwyliadwrus am ychydig gama. 

'Sefyll yn fan' cw!' gwaeddodd Ifor amo. 

A theimlodd Malcym ei dd'wrnod cynta yng Nghorsydd Mawr yn ymdebygu fwyfwy i ysgol. Llusgodd ei draed at y giât. 

'Gwatshiaaaaaaa!' gwaeddodd Ifor. 

A phan drodd Malcym ei ben roedda nhw yno. Yn pyncio ac yn cicio yn fygythiol feio'r blaen nes yr oedd glafoerion hir fel llinyna io-io yn diferu o'u cega a'u ffroena. Neidiodd i'r ochr! A thrwy ryw drugaredd rhedodd y cwbwl ar eu penna i'r gorlan yn hytrach nag yn eu blaena i lawr y lôn. 

'Lwcus!' ebychodd Malcym oherwydd doedd ganddo ddim awydd rhedag ar eu hola i lawr y lôn ac i duw a ŵyr ble wedyn! 

Dechreuodd Malcym redag i gau'r giât ar y bustych. Wel, o leia, dyna a feddyliodd Ifor yr oedd o'n ei 'neud. Ond dim hyd nes iddo weld Malcym yn pasio'r gorlan ac yn diflannu i'r garej y sylweddolodd Ifor nad cau'r giât oedd ar ei feddwl! Diflannodd y bustych allan o'r gorlan yr un mor sydyn ag yr aethon nhw i mewn. 

'Jyst nôl smôcs fi… ' eglurodd Malcym pan ddaeth yn ôl allan o'r garej. 

Ond erbyn hynny roedd y cowt yn orlawn, a chyfnasa gwyn Mrs Huws yn frownwyrdd hyll ac yn un cowdel o bibo o dan draed y bustych trwsgwl! Dal i sefyll yn ei unfan yr oedd Malcym. Ond roedd o'n nes at gael smôc rwan nag ar unrhyw adeg arall yn ystod yr awr ddwytha. 

'Cer i nôl ffon, y lembo!' gwaeddodd Ifor yn gandryll ar Malcym, a gyrrodd yr ast i nôl y bustych. 

Ond doedd honno ddim yn gymaint o fistras mewn lle mor gyfyng â'r cowt. 

'Ty'd yma!' gwaeddodd Ifor ar Malcym wedyn. Ond dim ond ar ôl gweiddi, waldio, rhegi a chyfarth gan Ifor, y wraig, a'r ast y gyrrwyd y bustych i gyd o'r cowt i'r iard. Gwyliodd Malcym yn synn gan godi ei ffon bob hyn a hyn. 

Wrth fynd i'r gorlan at y bustych doedd gan Malcym ddim welintons, ffon na llawar o 'fynadd. Ond gwyddai pe byddai'n llwyddo i gael y bustych i'r Crysh, y byddai'n nes o lawar at gael smôc wedyn. Tynnodd y pacad o'i bocad yn barod. 

'Cydia'n ben y giât 'na!' gwaeddodd Ifor. 

Roedd Ifor, yn amlwg, yn gwybod pa bum bustach oedd i fynd i'r mart. Ond welodd Malcym erioed ddeg o betha mor debyg i'w gilydd. Roedd Malcym i agor y giât bob tro y gwaeddai Ifor ac y gyrrai fustach o'i flaen trwyddi. Ond wrth i Ifor gael traffa'th i anelu trwyn rhyw fustach at y giât, gwelodd Malcym ei gyfla i gael smôc! Hefo un llaw agorodd geg y pacad coch a gwyn a gwyrodd ei geg ato yn barod i dynnu un smôc allan hefo'i ddannadd. 

'Agor!' gwaeddodd Ifor a sglefriodd Malcym gan golli ei draed a'i smôcs i ganol y fwtrin wlyb ar lawr y gorlan. 

Rhedodd y bustach trwy'r giât agorad ond llithrodd yn ei frys nes taflu cawod o bibo dros ddillad glân Malcym. 

Pan gaewyd y giât Y tu ôl i'r pump bustach melyn yn y côr, roedd tasg fwyaf yr orchwyl fechan hon wedi ei chwblhau. Dim ond matar o roi ffon ar gefn y bustach cynta oedd hi rwan nes y byddai'n cerddad yn ei flaen ac yn rhoi ei ben yn sownd yn y Crysh. 

Ond gwrthododd y bustach cynta roi ei ben trwy'r agoriad! Yn wir gwrthododd symud o gwbwl. Rhoddodd Ifor slaes sydyn, egr ar gefn y bustach dwytha gan obeithio y byddai hwnnw'n gwthio'r lleill yn eu blaena. Symudodd 'run ohonyn nhw flewyn. Dim hyd nes i Ifor hollti ei ffon bambŵ ar chwartar-ôl y bustach dwytha. Rhoddodd hwnnw hergwd i'r un o'i flaen, a'r un o flaen hwnnw i'r llall nes y cafodd y gwyllta ohonyn nhw i gyd gymaint o ddychryn nes y llamodd dros y rheilings a'r wal frics bum troedfedd, heb hyd yn oed edrach ar y ddyfais hynod o'i flaen! Diflannodd y bustach i lawr y lôn. Roedd hi'n bum munud ar hugain wedi deg. 

Ceisiodd Ifor ymbwyllo ac meddai wrth Malcym: 'Paid â phoeni. 'Deith o ddim pellach na'r giât lôn.' 

Bodiodd Malcym am ei smôcs! 

#!@Dipio 

'Sgwn i be ma' nhw'n neud yn Libfafi fwan .. meddyliodd Malcym a theimlodd ei hun yn dechra mynd yn 'high' ar ogla dip. 

'Doedd hi ddim yn dd'wrnod delfrydol i ddipio defaid. Roedd hi'n bwrw glaw mân ac roedd hi'n ganol Tachwedd. 'Doedd Ifor ddim wedi cael cyfla i drochi 'run ddafad cyn hyn. Ond heddiw roedd yn rhaid iddo ddipio'r cwbwl neu dorri deddf gwlad. 

Roedd Malcym yn oer, yn wlyb ac ar ei gwrcwd yn y twb dipio tri chwarter gwag. Bob tro roedd o'n codi llond pwcad dyllog o ddŵr budur o'r twb a'i gwagio dros yr ymyl, roedd rhywfaint o{r dŵr drewllyd yn siŵr o lifo'n ôl i fyny ei lawas! Roedd ganddo boen yn ei gefn a gwayw yn ei goesa bob tro roedd o'n plygu i lenwi pwcad ac roedd ganddo swigan gymaint â balŵn o dan ei droed dde ar ôl nôl defaid o ben y mynydd. Petai'r rheiny wedi bod yr ochor bella i Mars 'fyddai'r tynnu i fyny i fynd atyn nhw ddim wedi gallu bod yn llawar c'letach! 

Roedd Ifor wrthi'n sgubo'r gorlan yn wyllt wrth feddwl am y biliyna ar filiyna o jobsus er'ill a oedd ganddo i'w gneud ar ôl gorffan dipio. Jobsus y byddai o wedi eu gorffan nhw ers tro byd, wrth gwrs, pe byddai wedi cael llonydd i'w gneud nhw. Llonydd gan bobol, yn enwedig trafeiliwrs blawd. Torrodd y brwsh! Ac wrthi'n brasgamu i'r cwt tŵls i'w drwshio yr oedd o pan gyrhaeddodd rhyw gar yr iard. Car coch, newydd sbon, llythyran 'D'. Ond cyn i Ifor gyrraedd diogelwch y cwt tŵls, canodd y dyn ci gorn i ddangos ei fod wedi ei weld o a dechreuodd siarad hyd yn oed cyn iddo ddŵad allan o'i gar: 

'Ah! Wedi'ch dal chi tro yma, Mr Huws!' gwenodd, a gofyn: 'Sut ma hi ama chi am nyts gaea yma? Gynno ni'r union beth dach chi isio - mics newydd sbon siwtio bob dim - defaid, gwarthaig, bustych, lloua bach, bwjis - rwbath! High in protein. Dim byd curith o. Fydda i'n ei fyta fo'n hun! Am drIO deg tunnall i ddechra, ia Mr Huws?' 

Ac os cymrodd y Dyn Blawd ei wynt unwaith yn yr eiliad ddwytha roedd o wedi bod yn slei iawn yn gneud hynny. Ond doedd doniau anadlu na gwerthu trafeiliwrs blawd yn mennu dim ar Ifor. 

'Corsydd Mawr?' prysurodd y Dyn i lenwi rhyw ffurflen. 

Rhoddodd Ifor hoelan yn y brwsh a gweiddi: 'Sgin i'm amsar. Dw i'n dipio!' 

'Pamffledi?' gofynnodd y Dyn yn eiddgar, er i Ifor gau giât y gorlan yn ei wynab. 'Adawa i nhw'n fa'ma, 'lwch.' A rhoddodd dwmpath o'r pamffledi o dan garreg ar ben wal y gorlan. 'Ro i'n nymbr ffônadra ar y cardyn hefyd 'lwch, Mr Huws.' A sgribliodd y Dyn yn llawn gobaith, 'Hwyl 'ta, Mr 

Huws! Glywa i gynnoch chi'n fuan, ia?' 

Ond o'r eiliad y dechreuodd y Dyn fwydro am bamffledi roedd Ifor wedi agor y tap dŵr led y pen i lenwi'r twb dipio. Neidiodd Malcym odd'ar ei gwrcwd ac allan o'r twb lle roedd o wedi meddwl cael smôc slei cyn dechra ar y dipio. Llanwyd y twb ac am ddeg o'r gloch roedd pob dim yn barod. Sychodd Malcym y gawod gynta a dasgwyd i'w wynab gan y ddafad gynta a daflwyd dros ei phen i'r twb. Teimlodd Malcym ei goesa'n crynu'n wantan oddi tano. Roedd pedwar cant o ddefaid i'w dipio ac roedd yn rhaid gafa'I ym mhob un, fesul un, a'u taflu i mewn i'r twb. Ond erbyn ugain munud wedi deg roedd petha'n mynd yn ddigon del. Ifor oedd yn meddwl hynny. 'Doedd gan Malcym ddim byd i'w ddeud. Roedd o'n rhy wan i fedru siarad! Er, mi ofynnodd un cwestiwn: 

'Pfyd ma'f inspectof dipio 'ma'n dŵad i gweld chi, Must yf Huws?' gan obeithio y byddai hynny'n torri ar rediad y gwaith ac yn rhoi cyfla iddo gael eistedd i lawr a chael ei wynt ato. Doedd dim ots am smôc, 'Pfyd mae o'n dwad, Must yf Huws?' gofynnodd wedyn. 

Mwmliodd Ifor rwbath: 

'Ddaw o ddim… Welis i 'rioed mo'no fo'n dŵad… ' a thaflodd ddafad 'styfnig arall dros ei phen i'r twb. 

Roedd hi'n dal i fwrw glaw mân ac roedd Malcym wedi dallt o'r diwadd be' oedd pwrpas dillad oel, am nad oedd ganddo fo rai! Ond roedd o wedi cael welintons. Welintons melyn hefo streipan nefi blŵ rownd eu topia. Ond dyna fo, lwcus oedd o fod ei draed o'n digwydd bod yr un faint â rhai Mrs Huws. Bob tro yr âi dafad dros ei phen, teflid ton fawr dros ymyl y twb a chawod arall dros Malcym. Roedd o'n digwydd sefyll mewn lle anffodus bob gafa'l. 

Am hannar awr wedi deg gwelodd Malcym gar arall yn cyrraedd yr iard, a phan edrychodd wedyn roedd y Dyn 'sgidia lledar, melyn a chôt colar flewog yn eistedd ar ben giât y gorlan. 

'O'ni'n meddwl na fasa chi ddim yn bell, Mr Huws,' cyfarchodd y Dyn Ifor o ben y giât a'i wen ddwywaith yn lletach na hi! 

Ond dal i daflu defaid yr oedd Ifor fel tasa'r Dyn ddim yn bod o gwbwl. 

'Inspectof wedi cyfadd, Must yf Huws,' mentrodd Malcym. 

'Dyn Blawd ydi o!' ebychodd Ifor gan gydio'n benderfynol yng nghynffon rhyw ddafad a'i swingio i'r twb. 

'Defaid chi'n edrach yn dda, Mr Huws! Ga' nhw 'liquid feed' gynnoch chi Gaea 'ma, ma'n siŵr, ca'n… ? Spesial o liquid feed gynno ni'n digwydd bod. 'Sna'm byd curith o. Pawb yn 'rardal 'ma'n 'i brynu fo! Dyna pam ddois i yma. 'Cofn iddo fo ddarfod a chitha ddim wedi ca'I peth. Faint gymrwch chi?' 

Ond dim ond y defaid oedd yn gwrando ar y Dyn ac un o'r enw Del, hen oen llywa'th, wedi dechra cnoi godra'i drowsus. 

'Digonadd o bamffledi i chi, 'lwch. Adawa i nhw'n fa'ma. Fydda i adra ddydd a nos. Jyst ffoniwch.' Ond cyn iddo gyrraedd ei gar, stopiodd a gweiddi: 'Heblaw am wsos nesa. Peidiwch â ffonio wsos nesa. Newydd gofio! Fydda i ar 'n holides yn Sbaen! Wela i chi eto!' 

Roedd hi'n ugain munud i un ar ddeg ac roedd Malcym â'i feddwl ar fwyd ac Ifor â'i feddwl ar orffan. Roedd hi'n dal i bigo bwrw a'r gorlan yn mynd yn fwy llithrig dan draed bob munud a phamffledi trafeiliwrs blawd yn glynu o dan welintons Malcym lle bynnag yr âi. 

'Inspectof!' gwaeddodd Malcym pan gyrhaeddodd car glân arall yr iard yn annisgwyl. 'Dyn Blawd . . . ma'n siŵr,' damiodd Ifor. Yna gwaeddodd ar Malcym yn sydyn: 'Cuddia!' Wardiodd y ddau y tu ôl i wal y gorlan fach, a'r eiliad nesa roedd Dyn mewn côt croen dafad yn edrach i lawr ar y ddau ac yn gwenu. 

'Hwyl go lew ama chi?' gofynnodd y Dyn yn glen. Roedd Malcym yn dechra dallt rwan pam nad oedd gan Mr Huws ddim byd i'w ddeud wrth drafeiliwrs blawd. Roeddan nhw fel Pobol Triwant ar ôl rhywun yn bob man! 

"Dach chi'n 'y nghofio fi, Mr Huws? Welis i chi llynadd, do. Cwmni Nyts. Gynno ni ma'r nyts mwya gewch chi! 'Ma fo nghardyn i.' 

Ond fel yr ymddangosodd y cardyn bychan o'i bocad, stribedwyd o a'r Dyn gan biswail gwlyb y gorlan pan benderfynodd dafad gymryd gwib a sglefrio ar ei hochr o'i flaen. Sychodd ei wynab hefo'i hancas bocad a gada'I y cardyn brith ar ben y wal. 

'Eniwe, ma'i braidd yn wyllt ama fi heddiw. Alwa i rhywbryd eto, 'lwch… ' a throediodd yn ofalus ar flaena'i draed allan o'r gorlan gan edrach yn bryderus ar ei gôt. 

Ailgydiodd Ifor a Malcym yn y dipio. Ond doedd Malcym ddim yn dallt pam yr oedd cymaint o bobol i'w gweld yn poeni am ddefaid Mr Huws. Oedda nhw'n dena ac ar lwgu? Doeddan nhw ddim yn edrach felly. Ond am ennyd gwelodd Malcym ei hun fel Bob Geldof yn trefnu cyngherdda anfarth led-led y byd i godi pres i brynu bwyd i ddefaid Mr Huws. Ond buan y deffrwyd Malcym o'i synfyfyrion gan ddafad fawr gre yn ei lusgo ar ei fol o un pen o'r gorlan i'r pen arall. Roedd o'n rhy wan i'w dal! Dau fys i drafeiliwrs blawd felly, meddyliodd Malcym wrth sglefrio'n ôl a blaen yn trio dal y ddafad, a'i wynab a'i ddillad yn bibo drostynt! 

Erbyn un ar ddeg roedd Ifor a Malcym wedi dipio hannar y ddiadall er gwaetha trafeiliwrs blawd. Ond roedd Malcym wedi sylwi ar Ifor. Roedd o yr un fath hefo pob joban. Unwaith yr oedd o wedi torri asgwrn cefn y gwaith doedd dim dal arno. Roedd o fel tasa fo'n cyflymu a chyflymu yn ei awydd i gael gorffan, a chael dechra un o'r miloedd jobsus er'ill a oedd ganddo ar y gweill. Felly, cyflymodd yr hel a chyflymodd y taflu nes yr oedd y cyfan yn dechra codi'r bendro ar Malcym. A bu bron i Ifor ei daflu ynta i'r twb pan blygodd i lawr i stwffio coes ei drowsus yn ôl i mewn i'w welinton! Roedd Ifor yn ddidrugaredd wrth ddyn ac anifail yn ei awydd i gael gorffan ac ynta wedi gweld y gola ym mhen draw'r twnal! Rhedodd a sglefriodd Malcym am yn ail i lenwi corlenaid arall o ddefaid. Llithrodd eto, ar un o filoedd pamffledi racs y Trafeiliwrs Blawd, a'r funud honno gwelodd gar arall yn stopio ar yr iard. 

'O no! Dim un afall!' meddyliodd Malcym wrtho'i hun a gwaeddodd ar Ifor: 'Un afall, Must yf Huws.' Ond cyn i Malcym gael deud mwy, roedd hogyn ifanc yn sefyll wrth ei ymyl, yn sych, yn lân ac mewn welintons a chôt a edrychai'n newydd sbon. 

'Mr Huws!' galwodd mewn llais braidd yn ferchetaidd ar Ifor a oedd yn taflu defaid wysg ei ochr fel peli rygbi i'r twb o'i flaen. 'Mr Huws?' galwodd wedyn gan besychu i'w ddwrn. 'Fasa chi'n gallu stopio am funud, os gwelwch chi'n - ' 

'Na'dra!' chwythodd Ifor drwy'i drwyn yn wyllt, a thaflodd ddafad arall dros ei phen i'r twb nes y trochwyd yr Hogyn gan deidal wefl 

'Newydd ddechra ydw i. Job newydd,' mentrodd yr Hogyn wedyn. 

'Yli!' gwaeddodd Ifor. "Dw i wedi gordro mlawd yn barod - ers gaea dwytha!' a chydiodd yn yr Hogyn gerfydd ei frest a'i godi odd' ar ei draed. 'Dallt?' Yna gollyngodd o. 

Ond y funud y teimlodd hwnnw'i draed yn ôl ar y ddaear bagiodd yn ei ddychryn a disgyn ar ei gefn i mewn i'r twb! 

Cododd Malcym y clip-board a daflwyd i'r awyr yn y gyflafan, ac ar ben y papur darllenodd: 'AROLWG DIPIO. CORSYDD MAWR. DYDD IAU, 11.00 a.m.' 

'Be ydi afolwg, Mustyf Huws?' 

Ond doedd dim synnwyr i'w gael gan Ifor, a oedd yn dal i daflu dafad ar ôl dafad i mewn i'r twb dipio! 

#!@Y Fuwch

'Rhyfadd 'de,' meddai Marian, y wraig, rhwng ei dannadd a'i thôst a'i marmaled, wrth droi tudalenna'i dyddiadur. 'Dydan ni'm 'di gweld y Ddynas Seffti 'na ers tro byd rwan, naddo… ' 

'Naddo,' cytunodd Ifor. 

Ond roedd ei feddwl o yn rwla arall. Roedd y fuwch yn y beudy yn grwn fel eliffant ac ar ben ei hamsar ers pythefnos ac roedd o wedi gweld mwyar honno yn y pythefnos dwytha nag a welodd ar ei wraig! Roedd o wedi bod yn codi bob awr o'r nos i gymryd golwg ami. Dyna oedd yn egluro pam yr oedd o wedi bod yn cysgu yn ei ddillad ers wsos ag un goes allan o'r gwely! Ond doedd Ifor ddim yn mynd i gael ei dwyllo. Roedd o'n 'nabod 'stumiau buchod cyflo i'r dim. Roeddan nhw'n treulio'u dyddia a'u horia ola cyn yr enedigaeth yn y beudy, yn gwadu eu bod nhw'n feichiog o gwbwl. Yna'n slei bach, pan na fyddai neb yn edrach, byddai'r fuwch yn geni'r llo a hwnnw'n marw trwy rhyw anffawd neu'i gilydd am nad oedd neb yno i gadw golwg amo! Ond roedd Ifor yn dallt y gem yn iawn. Dyna pam yr oedd o'n sleifio i weld y fuwch dan sylw bob awr o'r dydd a'r nos ac yn sbecian trwy hollt yn nrws y beudy rhag ei rhishio. 

Roedd hi'n fora oer, rhewllyd ac aeth Ifor allan i gael golwg ar y fuwch. Cerddodd ar flaena'i welintons at ffenast y beudy. Ond pan roddodd ei drwyn ar y ffenast drwchus roedd y fuwch wedi codi ei chlustia, yn cnoi ei chil yn braf, ac yn edrach arno! 'Doedd dim golwg am lo. 

'Oef, yndydi Mustyf Huws,' chwythodd Malcym gymyla mawr o agar o'i geg ar war Ifor. 

'Be ti isio!' neidiodd Ifor gan rythu ar Malcym mewn cymysgadd o ddychryn a blindar. 

'Mae'n chwaftaf i naw, Mustyf Huws,' atebodd Malcym hefo'i ddwylo o'r golwg yn ei geseilia a'i ddannadd yn clecian. 

'Nos 'ta dydd?' gofynnodd Ifor heb feddwl. Roedd ei gloc mewnol wedi drysu'n lân. 

'Bofa, Mustyf Huws,' a dechreuodd Malcym chwerthin. 

'Wel, ti' fod yma erbyn hannar awr wedi wyth!' harthiodd Ifor i gael y gora amo. 

'Gin fi ffost beit, Mustyf Huws!' a chwythodd Malcym i'w ddyrna a dawnsio o un droed i'r llall yn ei siacad ledar ddu nad oedd hyd yn oed yn cyrraedd ei fotwm bol. 'Oedd fi'n methu gafa'I yn handls beic fi, Mustyf Huws!' 

'Wel, dorro ddŵr i'r fuwch 'na. Gnesith hynny chdi . . . ' ebychodd Ifor yn flin hefo'r fuwch a Malcym ac aeth i roi seilej i'r gwartheg yn y sied. 

'Pfyd ceith fi holides fi, Mustyf Huws?' 'Dŵr i'r fuwch 'na!' gwaeddodd Ifor. 

Roedd Malcym ynta'n gweddIo bob dydd y byddai'r fuwch wedi bwrw'i llo cyn iddo fo gyrraedd ei waith achos doedd y cafn dŵr yn y beudy ddim yn gweithio. Ar y ffariar yr oedd y bai. Hwnnw stumiodd rhyw beipan wrth dynhau rhyw raff amdani i dynnu rhyw lo Charli mawr a aned yno wyth mlynadd yn ôl. Ond fe gyrhaeddodd bil y ffariar yr un fath yn union, ac heb ei thrwshio yr oedd y beipan byth. A dyna pam yr oedd Malcym yn gorfod cario pwcedeidia o ddŵr o'r tap yn y sied ddefaid ar draws yr iard i'r camal sychedig yn y beudy. Agorodd Malcym y tap. Dim dŵr! 

'Must yf Huws! 'Os na'm dŵf!' gwaeddodd Malcym a rhedag ar ôl Ifor i'r sied ddefaid. 

Neidiodd Malcym fel mwnci o flaen y tractor. 

Ond 'doedd Ifor ddim yn cl'wad dim tu mewn i'r cab. 

"Os 'na'm dŵf yn dwad o'f tap, Mustyf Huws!' eglurodd Malcym, fel 'tasa fo erioed wedi gweld y fath odrwydd yn ei fywyd o'r blaen. 

Rhegodd Ifor am funud solat a mwmial rwbath am beipan wedi rhewi 'Ma siŵr!' Y funud wedyn gwaeddodd Marian nad oedd diferyn o ddŵr yn y tŷ! Rhuthrodd Ifor i gau'r stop tap, a dyna pryd y gwelodd gaenan drwchus o rew fel llyn mawr ar ganol y cae. Byrst! Cymrodd Ifor olwg ar y fuwch yn y beudy, estyn caib a rhaw a joint plastig o eigion rhyw focs tŵls, a neidio i'r Daihatsu i drwshio'r hollt yn y beipan. 

Cafodd Malcym rybudd i gadw golwg ar y fuwch bob yn ail a phorthi'r gwartheg. Toc dychwelodd Ifor d'r gwaith wedi ei orffan. Roedd joints plastig yn betha digon handi! Cymrodd olwg ar y fuwch. Roedd hi'n cnoi ei chil yn braf. 

'Dydy'f fuwch byth wedi dwad a llo, Mustyf Huws,' ychwanegodd Malcym yn sylwgar. 

Roedd mynd i'r Coleg Amaethyddol, un d'wrnod yr wsos, wedi gadael ei ôl ar Malcym a hynny er gwaeth! y drwg mwya oedd fod Malcym erbyn hyn wedi dechra ymddiddori rhyw gymaint yn ei waith. Felly, yn lle gofyn cwestiyna felD'r blaen, roedd Malcym wedi dechra mynd yn feirniadol iawn. Roedd o'n gweld bai ar bob dim oedd gan Ifor ac ar bob dim yr oedd o'n ei neud. Roedd Ifor ynta wedi dechra teimlo fod rhywun yn ei wylio trwy'r amsar oc yn chwythu i lawr ei war. 

'Ma'f lechan 'na uwchben dfws beudy yn befig, Mustyf Huws,' pwysleisiodd Malcym. 

Peidio cymryd sylw ohono oedd polisi Ifor a rhoi joban iddo'i gneud yn ddigon pell o'i olwg! Duw a Wyr, roedd digon o betha hanfodol i'w gneud cyn rhyw fanion dibwys fel trwshio llechan ar ben to! Ond roedd Ifor yn bwriadu eu gneud nhw i gyd rhyw dd'wrnod. Roedd o'n mynd i drwshio tolynod y giât lôn, rhoi giatia newydd ym mhob cae, cilia concrit i ddal pob giât a'r cwbwl yn cau heb linyn bel! Roedd o'n mynd i drwshio to sinc y tŷ gwair a syrthiodd hefo'r daeargryn dwytha, a chlirio'r nialwch o fieri, weiran-bigog, prenia, heyrs a blerwch oedd yn y gadlas. Roedd o'n mynd i godi wynab concrit y gorlan i osod traen newydd sbon fel mai dim ond matar o dynnu plwg fyddai gwagio'r twb dipio wedyn. Roedd o'n mynd i neud troli i symud y weldar o gwmpas y lle, trwshio'r cafn dŵr yn y beudy, trwshio'r lein ddillad a chroncritio'r cowt i'r wraig, a phe câi amsar byddai hyd yn oed yn rhoi hoelan yn y lechan rydd uwchben drws y beudy! Ond jobsus wedi eu cadw at rhyw dd'wrnod glawog yr oeddan nhw. y draffa'th fodd bynnag, oedd fod y jobsus yn mynd yn fwy niferus bob dydd a'r d'wrnod glawog yn mynd i orfod bod yn debycach i ddilyw cyn y gallai Ifor eu cyflawni nhw i gyd! 

Cerddodd Ifor ar flaena'i draed at ddrws y beudy a sbecian ar y fuwch. Ond y funud y cyrhaeddodd, cododd honno'i chlustia a throdd ei phen-ôl (a oedd wedi bod yn ganolbwynt sylw pawb ers wsnosa) tuag at y wal ac edrach ar Ifor. y funud honno cyrhaeddodd Fford Escort gwyrdd gola yr iard yn ara deg fel car cnebrwng ac wedi ei fwytho fel cath. Bu bron i Ifor â dianc oherwydd roedd o'n 'nabod y car. Ond baglodd ar draws pwcad ddŵr y fuwch a adawodd Malcym yn union lle gollyngodd hi y tu allan i'r beudy. 

'Shwt ych chi, Mr Huws?' gofynnodd y ddynas ganol oed, o ran ffurfioldab yn hytrach na chwrteisi, wrth roi ei welintons am ei thraed. Welintons a oedd fel newydd, ond eu bod nhw'n union yr un oed â hi, mae'n debyg. 

Yna rhoddodd fenyg am ei dwylo, sgarff am ei gwddw ac ofyrôl wen dros bob dim gan gynnwys ei chôt. Hon oedd y Swyddog Diogelwch Fferm a'r Ddynas Seffti. Gwenodd Ifor yn wirion. Roedd yn rhaid iddo ymdrechu i fod yn glen. 

'Y slaten 'na'n edrych yn ddanjeris, Mr Huws,' sylwodd y Ddynas fel barcud. 

'Bobol annw'l! Rhew neithiwr, ma'n siŵr! 'Doedd hi ddim fel'na ddoe,' twt-twtiodd Ifor a cheisiodd newid gogwydd y sgwrs. "Di brifo' ch coes, Mrs Bowen?' gofynnodd. 

'Nhrôd, Mr Huws! A wi'n dishgwl y byddwch chi wedi ca'I rhywbeth gwell na chortyn i glwmi gât y ffordd erbyn y tro nesaf!' a henciodd yn ei blaen i chwilio am feia. 

Cerddodd Ifor ar ei hôl fel oen llywa'th, a'i awydd i gysgu yn gryfach na'r un i ddadla hefo'r ffurat o'i flaen! 

'Tractors, Mr Huws! Ble ma' nhw?' gofynnodd yn bwysig. 

'Wel, ma' un tu allan i'r sied. A ma'r llall ar… ' A diolchodd iddo sylweddoli beth yr oedd o ar fin ei ddeud, cyn iddo roi ei droed ynddi! Roedd y llall, y Massey bach a oedd ar y ffarm, cyn ei wraig, ar ben yr allt. Sut arall oedd disgwyl i ddyn ei danio ben bora gefn Gaea? 

'We ni'n meddwl bo' da chi un arall 'fyd?' edrychodd y Ddynas o'i chwmpas. 

'Oes. Ond mae o'n garej. Ca'I 'i drwshio,' atebodd Ifor heb fath o euogrwydd yn y byd. 'Damwain?' gofynnodd y Ddynas. 

'O naci, naci. Jyst cocpit-ffanbelt-y-ffrynt-Iodar-wedidarfod-a-gorfod-cael-heidrolics-newydd,' mwydrodd Ifor. 

'O wi'n gweld,' meddai'r Ddynas yn ddoeth gan ddal ei phen ar sgiw bwysig. 

Yna cymrodd lwybr llyffant yn ddigon llwyddiannus am bwl, beth bynnag, dros ac heibio'r hen gombein a'r heuwr a'r injian wair a'r heyrs bler yn y gadlas. Yna baglodd! Bachodd blaen ei welinton yn y weiran lefn a oedd wedi tyfu mor naturiol â dail tafolo'r ddaear dan ei thraed! Daliodd Ifor hi a gwenodd fodfedd o'i thrwyn. 

'Ma' hi'n llithrig,' pwysleisiodd Ifor. 'Dim byd gwaeth na welintons am godwm, nagoes,' ychwanegodd yn athronyddol wedyn. 

'Nage SLIPO wnes i! Ma' rhywbeth yn sticio mas o'r ddaear!' 

Ond cyn iddi gael mwydro mwya mynd yn ôl i astudio'r fangre, gofynnodd Ifor iddi: 

'Fasa chi'n licio panad o… ?' 

'Faswn i'n hoffi cwrdd â'r bachgen, y bachgen sy'n gwitho 'da chi, Mr Huws,' byrlymodd ar ei draws. 'Ble ma' fe?' 

A'r funud honno, fel 'tasa fo'n gneud ati, ymddangosodd Malcym yn chwil o ganol y das wair, yn pesychu, tagu, tishian, rhochian, poeri a mygu am yn ail. Stumia newydd eto i drIo cael gwyliau, wrth gwrs. Ond doedd y Ddynas Diogelwch ddim yn gwybod hynny. Gwingodd Ifor. 

'Ble ma'ch mwgyd chi?' gofynnodd i Malcym yn flin. 

'Haaaaatshŵ!' tishiodd Malcym i'w hwyneb. 

'Mr Huws, 'sda chi fasc i'r bachgen 'ma?' gofynnodd y Ddynas fel taran. 

'Methu'n glir a cha'I 'i seis o. Dim un digon bach… !' sgriwiodd Ifor ei gap stabal ar ei ben. 

'Mr Huws! So chi'n rhoi dewis i fi. Ma fe'n mynd lawr nawr!' A tharodd nodiada ar ei phapur. 

'Haaaaatshŵ!' tishiodd Malcym ac yna rhuthrodd i ddweud wrth y Ddynas, fel 'tasa fo am gael marcia llawn: 'Nath chi weld y lechan 'na uwchben Haaaaatshŵ!' 

'Llechen?' gofynnodd y Ddynas yn glustia i gyd. 'Gymrwch chi banad?' gofynnodd Ifor fel melltan! 'Haaaaatshŵ!' gwaeddodd Malcym wedyn nes roedd cawod o wlybania'th dros ffurflenni'r Ddynas. 

'Falle bydde dishgled o de yn gwneud daioni i'r Bachgen,' atebodd y Ddynas Diogelwch gan edrach yn bryderus ar Malcym fel 'tasa fo' n enghraifft perffaith o Farmer's Lung! 

Roedd Ifor yn falch o gael llonydd a theimlodd rhyw ryddhad mawr pan aeth y Ddynas Seffti a Malcym i'r tŷ. Roedd hi bob amsar yn ddoeth i gynnig panad i bobol fel Swyddogion Iechyd a Diogelwch, y Dyn V.A.T. a'r Rheolwr Banc… y fuwch! Roedd Ifor wedi anghofio am y fuwch. 

Aeth i roi tro amdani yn y beudy. Taflodd y drysa'n agorad a rhedodd i mewn. Roedd y fuwch ar ei thraed ac roedd y llo dela a welodd erioed yn un sglefr wrth ei hymyl! 'Del' oedd yr ansoddair a ddefnyddiai Ifor bob amsar i ddisgrifio llo bach byw neu unrhyw beth bach BYW arall a ddeuai a phres iddo! Rhoddodd hannar pwcedad o nyts i'r hen fuwchan, a dyna pryd y meddyliodd y byddai'n well iddo fo fynd â rhai i'r pum buwch yn y Cae-dan-tŷ hefyd. Roedd y rheiny wedi cael eu hanwybyddu'n ddiweddar am fod Ifor wedi bod yn rhoi cymaint o sylw i'r fuwch yn y beudy. Cododd hannar bagiad o nyts ar ei gefn a cherddodd heibio'r tŷ i'r cae. Agorodd y giât a gweiddi ar y buchod. Ond dim ond pedair ddaeth ato. Roedd y bumed â'i choesau i fyny fel rhyw gerflun modern, chwerthinllyd yng ngwaelod y cae! 

Cerddodd yn ei ôl i'r beudy'n flin a thaflodd y bwcad nes yr oedd yn drybowndian yn erbyn un arall! Edrychodd y fuwch yn hurt arno a llyfodd ei thrwyn. Roedd ei phwcad ddŵr yn wag. Cydiodd Ifor yn y bwcad ac aeth at y tap i'r sied ddefaid. Agorodd y tap. Ond doedd dim yn dŵad ohono! Damiodd! Neidiodd i'r Daihatsu a gyrru i'r cae lle cafwyd byrst y bora hwnnw. Ac ymhell cyn iddo gyrraedd y fan gwelodd y dŵr a oedd wedi bod yn colli ers oria yn byrlymu i'r wynab ac yn llifo i lawr y cae. Roedd twll arall yn y beipan! Caeodd y stop tap ac aeth i'r tŷ i ddweud wrth ei wraig am beidio tynnu mwy o ddŵr. Ond roedd o'n rhy hwyr. Roedd Marian wedi bod yn defnyddio'r dŵr poeth trwy'r dydd gan nad oedd dim o'r llall a'r gael ac fel yr oedd Ifor ar fin rhoi ei fawd ar gliciad y drws clywodd y glec fwya annaearol a glywodd erioed! 

Eiliad ynghynt gwelodd y Ddynas Seffti yn rhoi ei chwpan ar ei soser yn ofalus. Eiliad yn ddiweddarach ac roedd y tanc dŵr poeth yn y cwpwrdd wrth y stôf wedi ffrwydro! 

Diolchodd y Ddynas Seffti, yn grynedig, am y banad.